Charlotte Church

Suo-Gan Lyrics

Suo-Gan video

Votes:
0
See also:
Wrong lyrics?

Suo-Gan Lyrics Translations:

english (2)romanian

Charlotte Church - Suo-Gan lyrics

Huna blentyn ar fy mynwes
Clyd a chynnes ydyw hon;
Breichiau mam sy'n dynn amdanat,
Cariad mam sy dan fy mron;
Ni cha' dim amharu'th gyntun,
Ni wna undyn â thi gam;
Huna'n dawel, annwyl blentyn,
Huna'n fwyn ar fron dy fam.

Huna'n dawel, heno, huna,
Huna'n fwyn, y tlws ei lun;
Pam yr wyt yn awr yn gwenu,
Gwenu'n dirion yn dy hun?Charlotte Church - Suo-Gan - http://motolyrics.com/charlotte-church/suo-gan-lyrics.html
Ai angylion fry sy'n gwenu,
Arnat ti yn gwenu'n llon,
Tithau'n gwenu'n ôl dan huno,
Huno'n dawel ar fy mron?

Paid ag ofni, dim ond deilen
Gura, gura ar y ddôr;
Paid ag ofni, ton fach unig
Sua, sua ar lan y môr;
Huna blentyn, nid oes yma
Ddim i roddi iti fraw;
Gwena'n dawel yn fy mynwes
Ar yr engyl gwynion draw.

Write a comment

What do you think about song "Suo-Gan"? Let us know in the comments below!

Recommended songs